DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Mesurau'r Farchnad (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019   

DYDDIAD

10 Ebrill 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Mesurau'r Farchnad (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019   

 

Y gyfraith sy'n cael ei diwygio

 

Mae Rheoliadau y Polisi Amaethyddol Cyffredin a Mesurau'r Farchnad (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 ("Rheoliadau 2019") yn diwygio'r offerynnau domestig canlynol:

 

·         Rheoliadau yPolisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 ("Rheoliadau Taliadu Uniongyrchol”);

·         Rheoliadau y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cyllido, Rheoli a Monitro) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019 ("y Rheoliadau Cyllido");

·         Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Fframwaith Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol etc.)  Rheoliadau (ymadael â’r UE) 2019 ("y Rheoliadau Cynnyrch Amaethyddol");

·         Rheoliadau Mesurau’r Farchnad (Safonau Marchnata) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 ("Safonau Marchnata"); a

·         Mesurau’r Farchnad (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 ("Rheoliadau Mesurau'r Farchnad”).

 

Er nad yw Rheoliadau Mesurau'r Farchnad yn diwygio deddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru, mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i Reoliadau Mesurau'r Farchnad gan Reoliadau 2019 yn gysylltiedig â Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres 2009 a'r Rheoliadau Llaeth a Chynnyrch Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Lloegr a Gogledd Iwerddon) 2017, a'r un ohonynt yn berthnasol i Gymru. Dyma'r rheswm pam na gyfeirir at Reoliadau Mesurau'r Farchnad eto mewn rhan arall yn y datganiad hwn.

 

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Mae'r diwygio i'r Rheoliadau Cyllido gan reoliad 3(2)(b) o Reoliadau 2019 yn cael yr effaith o ddisodli y cyfeiriad at "Aelod-wladwriaeth" yn Erthygl 90(2) o Reoliad (UE) 1306/2013 gyda chyfeiriad at yr "awdurdod perthnasol". Yr awdurdod perthnasol at ddibenion Rheoliad (UE) 1306/2013 yw Gweinidogion Cymru.

 

Mae'r diwygiad hwn, yn ei dro felly'n trosglwyddo swyddogaeth weinyddol i Weinidogion Cymru yn ddi-rwystr. Canlyniad y trosglwyddo hwnnw yw gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddynodi'r awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am gynnal gwiriadau o'r ymrwymiadau a osodir gerbron yn Adran 2 o Bennod 1 o Deitl 2 o Ran 2 o Reoliad (UE) 1308/2013 yn unol â'r meini prawf a osodir yn Erthygl 4 o Reoliad (EC) 882/2004. Mae hefyd yn gosod dyletswydd i sicrhau bod gan unrhyw weithredwr sy'n cydymffurfio â'r ymrwymiadau hynny yr hawl i gael ei gynnwys mewn cyfres o wiriadau.

 

Diben y diwygiadau

Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau o dan adran 8(1) Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i fynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE sy'n cael ei chadw i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill (yn benodol o dan adran 8(2)(b) a (g) sy'n codi o'r ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r Rheoliadau Taliadau Uningyrchol yn ystyried y newidiadau dilynol i Reoliad (UE) 1307/2013 gan Reoliad (UE) 1305/2013 a 1307/2013. Mae'r diwygiadau i Reoliadau Taliadau Uniongyrchol yn arwain at newidiadau gweithredu i'r fersiwn sy'n cael ei chadw  o gyfraith yr UE o Reoliad 1307/2013.

 

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r Rheoliadau Cyllido yn arwain at gywiro a gweithredu newidiadau i fersiwn cyfraith yr UE sy'n cael ei chadw o Reoliad (UE) 1306/2013.

 

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r Rheoliadau Cynnyrch Amaethyddol hefyd yn arwain at newidiadau o ran cywiro a gweithredu fersiwn cyfraith yr UE sy'n cael ei chadw o Reoliad (UE) 1308/2013.

 

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r Rheoliad Safonau Marchnata yn ystyried y diwygio dilynol a wnaethpwyd i Reoliad (UE) 543/2011 gan Reoliad (UE) 543/2011, neu ond yn eu cywiro. Mae'r diwygiadau i'r Rheoliadau Safonau Marchnata wedi arwain at newidiadau gweithredu i'r fersiwn o fewn cyfraith yr UE sy'n cael ei chadw o Reoliad (UE) 543/2011.

 

Mae'r Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig sy'n nodi effaith y diwygiadau ar gael yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/DjwMqkoD

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran, ac ar ran, Cymru am resymau'n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.